According to the Radio Times, there will be a "record-breaking attempt to perform the longest-distance duet, between Cardiff and Patagonia, with Shân Cothi and Andres Evans singing Calon Lân , accompanied by the BBC National Orchestra of Wales and choirs in both countries."
Well ... it's what the world has been waiting for I suppose. Here's what the BBC itself has to say about this World Scoop ...
SHÂN COTHI YN DATGELU MANYLION YMGAIS UCHELGEISIOL I OSOD RECORD BYD NEWYDD AR DDIWRNOD CERDDORIAETH Y BBC
Mae manylion am ddarllediad uchelgeisiol fydd yn cysylltu Cymru a Phatagonia wedi cael eu cyhoeddi heddiw (Mai 18). Bydd y cysylltiad byw ar BBC Radio Cymru ar Ddiwrnod Cerddoriaeth y BBC, Mehefin 5, yn anelu i bontio dros 7000 o filltiroedd, sef y pellter mwyaf rhwng pobl yn canu deuawd, wedi’i ardystio gan Guinness World Records.
Y gantores Shân Cothi, sy’n cyflwyno rhaglen foreuol o ddydd Llun i ddydd Gwener ar Radio Cymru, fydd yn ymuno ag Andres Evans yn yr Ariannin ar gyfer perfformiad arbennig o’r emyn draddodiadol Gymreig, Calon Lân. Cafodd manylion yr ymgais i osod record y byd eu cyhoeddi ar raglen Bore Cothi y bore yma ar BBC Radio Cymru wrth iddi sgwrsio â Tim Rhys-Evans, llysgennad Cymru ar gyfer Diwrnod Cerddoriaeth y BBC.
Yn ymuno gyda Shân yn Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd ar Fehefin 5ed fydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a chôr unedig fydd yn cynnwys aelodau o wahanol gorau sef Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Côr CF1, côr staff Radio Cymru a Chorws Only Kids Aloud Canolfan Mileniwm Cymru 2015/16. Yn ymuno gydag Andres Evans ym Mhatagonia fydd aelodau o Gôr Ysgol Gerdd y Gaiman.
Mae hwn yn un o’r prosiectau eleni i nodi 150 mlynedd ers sefydlu cymuned Gymraeg, Y Wladfa, ym Mhatagonia ym 1865, pan hwyliodd 153 o bobl o wahanol rannau o Gymru ar y Mimosa i setlo yn Nhalaith Chubut yn ne’r Ariannin. Yn yr hydref bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn mynd ar un o’i deithiau mwyaf anturus erioed fel rhan o’r dathliadau 150 mlynedd, gan ymweld â’r Ariannin, Chile ac Wrwgwái.
Bydd y darllediad unigryw ar Radio Cymru, fydd yn rhan o sioe brynhawn Gwener Tudur Owen, hefyd yn cael ei ddarlledu yn fyw ar BBC Radio Wales a BBC Radio 3, ac mae’n un o’r prosiectau mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd erioed gan Radio Cymru o ran technoleg a threfniadau. Mae’r ymdrech yn nodi Diwrnod Cerddoriaeth cyntaf erioed y BBC, sef dathliad cenedlaethol o gerddoriaeth, gyda’r nod o ddod â phobl at ei gilydd ar draws cenedlaethau a chymunedau drwy eu cariad at gerddoriaeth. Ceir rhagor o fanylion ar bbc.co.uk/musicday
Meddai Shân Cothi: “Mae'n wych bod cerddoriaeth yn uno Cymru a’r Wladfa, ac yn hyfryd bod cân fel Calon Lân yn uno dwy wlad sydd â chysylltiad mor agos o ran hanes a thraddodiad. O’r hyn yr wyf yn ei ddeall, mae’n mynd i fod yn dipyn mwy o her nag y byddech yn ei feddwl oherwydd yr oedi sy’n ynghlwm â chael y sain at ei gilydd o bendraw’r byd, ond rwy’n croesi fy mysedd y bydd popeth yn iawn ar y diwrnod! Mae'n gyffrous iawn, a bydd yn berfformiad a hanner, rwy’n siŵr. Gobeithio y byddwn ni’n codi’r to - yma yng Nghymru ac ar ochr arall y byd hefyd!”
Mae Andres Evans yn 33 ac wedi bod yn canu mewn eisteddfodau ym Mhatagonia am 28 mlynedd. Mae’n cynnal bwyty yn Gaiman o’r enw “Gwalia Lân”, lle mae ei wraig Marina yn coginio.
Meddai Andres: “Alla i ddim credu’r peth, i fod yn onest - mae’n brosiect gwych i fod yn rhan ohono. Gobeithio y bydd y cyfan yn mynd yn iawn, ond rwy’n hapus iawn i chwarae fy rhan, yn enwedig o gofio ein bod eleni yn dathlu 150 mlynedd Y Wladfa. Rwy’n dwli ar ganu Cymraeg ac mae hyn yn freuddwyd i mi.”
Dywedodd Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: “Mae cerddoriaeth yn rhan ganolog o Radio Cymru ac roedden ni’n awyddus i wneud datganiad beiddgar, uchelgeisiol fel rhan o Ddiwrnod Cerddoriaeth y BBC. Wel, beth allai fod yn fwy beiddgar na dod â dau ganwr at ei gilydd - gan bontio dros 7000 milltir - a cherddorfa a phum côr, a darlledu’r cyfan yn fyw ar dair gorsaf radio? Bydd nifer o bobl yn siwr o fod yn eitha nerfus wrth i’r diwrnod agosau, ond mae pawb yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn iawn a, gydag ychydig o lwc, fe fyddwn ni wedi hawlio ein lle yn y llyfrau hanes erbyn diwedd y dydd.”
Y ddeuawd fydd uchafbwynt Diwrnod Cerddoriaeth y BBC ar Radio Cymru. Yn gynharach, bydd Shân Cothi hefyd yn cyflwyno rhifyn arbennig o’i rhaglen rhwng 10am a hanner dydd, yn fyw o flaen cynulleidfa ar Lwyfan Glanfa Canolfan Mileniwm Cymru. Yn ymuno â Shân ar y rhaglen fydd Hogia'r Wilber - Pedwarawd Gwerin o Batagonia sy'n teithio Cymru ar hyn o bryd, a’r gitarydd clasurol Rhisiart Arwel, sy'n perfformio cerddoriaeth o Gymru, Sbaen a’r Ariannin, ac a fydd yn teithio i’r Wladfa yn ddiweddarach eleni.
Yn ogystal â'r ddeuawd, bydd sioe Tudur Owen rhwng 2pm a 5pm hefyd yn cynnwys perfformiadau ychwanegol o ddarnau poblogaidd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Mae rhaglenni Radio Cymru ar y diwrnod yn rhan o nifer o ddigwyddiadau Diwrnod Cerddoriaeth y BBC ar draws y DU - mae mwy o fanylion ar bbc.co.uk/musicday.
MCR
So there we are ... and the music today will have to be .... have a guess! ... the brilliant thing with this version is ... it's sung by the BBC Wales presenters line by line ... bendigedig ! Dyma adloniant !
Aur y byd na'I berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lan.
Calon lan yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos:
Dim ond calon lan all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.
Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lan, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.
Calon lan yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos:
Dim ond calon lan all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.
Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd I'r nef ar adain cвn
Ar I Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi I mi galon lan.
Calon lan yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos:
Dim ond calon lan all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.
* You can have a look at my amazing Welsh-Related World Record here... as far as I know nobody has beaten it yet ... just click on this link ...
http://therockyroadtowelsh.weebly.com/blog/gormod-o-cacen-fyr