There's certainly plenty of guidance and at least one big clue.
Have a think....... or just enjoy reading it !
Felly rhowch i mi chwilen a chwannen,
Tair madfall a dwy falwoden,
O'r môr rhowch i mi slefren,
A phigiad gwenwynig cacynen,
A sudd o ffrwyth y jiw-jiwben,
A phowdr asgwrn pen-glin cynffonwen.
A chant o bethau gwydroëdig,
Pob un yn ddrewllyd felltigedig.
Fe gaf eu troi a'u berwi'n hir,
Cymysgedd cryf, cymysgedd clir.
Ac yna, wps, i lawr â'r swyn,
Yn llwyaid braf ( daliwch eich trwyn)
Llyncwch e a pheidiwch ofni.
"Sut flas, Nain annwyl, sydd arno i chi ?"
A fydd hi'n clecian ? Ynteu ffrwydro ?
Yn hedfan fry ar wib drwy'r fro ?
Yn mynd ar goll mewn pwff o fwg ?
Neu'n sïo'n wyllt fel Coke mewn jŵg ?
Pwy a ŵyr ? Nid fi. Rhaid aros,
( Diolch byth nad ni sydd, blantos.)
O Nain, petaech chi ond yn gwybod
Am y moddion fydd mor hynod !"
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Now, to soothe the savage brain, here's Gruff Rhys + "Rhagluniaeth Ysgafn" .