- Some things you just can't make up ! In case any of you lot out there don't believe me, here's all the details and a review of it by Hawys Tomos from the Gwasg Carreg Gwalch site......
- ISBN: 9781845270148
- Awdur: Dafydd Meirion
- Cyhoeddi Hydref 2005
- Fformat: Clawr Meddal
Adolygiad Gwales
Wedi datrys llofruddiaeth y trôns, mae Dic Bonc yn ei ôl, ac mae dirgelwch newydd yn aros amdano ...
Os mai nofelau ditectif ysgafn, doniol, sydd at eich dant chi, yna dyma’r union nofel sy’n mynd i dynnu eich sylw a sicrhau na fyddwch yn symud cam o’r gadair freichiau nes eich bod wedi gorffen ei darllen bob gair!
Er ei bod braidd yn agos at yr asgwrn, dyma stori ddirgelwch wirioneddol ddoniol sy’n sicr o wneud i chi chwerthin wrth i chi geisio dyfalu pwy fu’n gyfrifol am gipio Samantha Plaything-Jones, un o ferched mwyaf deniadol y dref.
Ni wyddai’r Sarjant Dic Huws – neu Dic Bonc i’r rhai sy'n ei adnabod – y gallai pâr o nicyrs piws, drud achosi cymaint o drybini! Gyda’r cliwiau'n hynod brin, a’r Arolygydd Amanda Daniel yn bygwth galw heddlu Sgotland Iard bob munud, allai pethau ddim bod lawer yn waeth arno. A phan gredai na allai pethau waethygu ymhellach, mae Ramona Parry, un o ffrindiau Samantha, yn diflannu, a deuir o hyd i Dic Donci'n farw ar lan yr afon a chylchgrawn dillad isaf ar agor wrth ei ymyl!
Pwy sy’n gyfrifol am gipio Samantha? A oes cysylltiad rhwng diflaniad y ddwy ferch ifanc a marwolaeth amheus Dic Donci? Dyma’r cwestiynau y mae'n rhaid i Huws a’i gyfeillion eu hateb ... a hynny cyn bod Sgotland Iard yn cael cyfle i fusnesu!
Ond nid yw datrys dirgelwch o’r fath yn hawdd, yn enwedig pan mai Dic Huws yw eich enw. Wedi i Tricsi’r transfestait a Delila o Ffostrasol gael gafael ynddo – heb sôn am Mandi, cariad Sam Saer – nid yw Huws yn sicr a yw'n awyddus i barhau i geisio datrys y dirgelwch hwn sy’n mynd yn fwy ac yn fwy rhyfedd o hyd! Yn wir, mae’n denu trybini lle bynnag mae’n mynd. Caiff hed-byt gan wraig Dic Donci, caiff ei gloi mewn celloedd gan heddlu Ffostrasol, ac mae Gwilym Geiria'n dwyn Hanna Banana oddi arno.
Nofel fywiog, llawn hiwmor, yw hon gydag iaith liwgar, golygfeydd diddorol a digon o gymeriadau rhyfedd i’n harwain at ganlyniad annisgwyl.
A all Huws ddatrys y dirgelwch? A fydd Llew yr Hac, Tricsi’r transfestait a Sbando’r ci yn gymorth iddo o gwbl? Ac yn fwy pwysig na dim, a gaiff Samantha ei nicyrs yn ôl?!
Hawys Tomos
I've read Trôns, and if that's anything to go by this follow-up will be a brilliant read, very funny and a detective story as well... you can't lose.
After that ,this ..... it's "Cofio chdi o'r Ysgol" by Yr Ods ...
http://therockyroadtowelsh.weebly.com/blog/trons