So nondescript is it, I can't even remember where it came from or how it got here. Maybe our new cat brought it in through the cat-flap. [ Fflap-gath ?]
But, I dare say if it was the only book on your desert ( and deserted) island, I suppose you would read it. On the plus side, it's long. Hir yn iawn. And just to show you that it's not really boring, I've decided to find some interesting things in it...so there. Dyna ni ....
Reitô
olreit ( sometimes followed by "Ffein"
sbôc ( spoke, as in "rhoi sbôc yn ei olwyn ef"
cwis ( as in "cyn falched â phe bai wedi ateb cwestiwn terfynol cwis"
cromiwm
my own favourite being"°fwffler" as in " °fwffler ar ei fraich"
...and wouldn't use English words when there were perfectly good Welsh ones ... the best one being " hypotenuse ... as I said, there's a perfectly good Welsh way of doing it ...
" yr ochr gyferbyn â'r ongle sgwâr" ( YGM) which is actually incorrect by the way.
but lots are feeble .... " on the premises"
"first class"
" so long"
"Brainwave"
" storage"
" chess"
" hand-made lampshades!"
"inspector"
" big ideas"
"top floor"
" Go on"
"opposition"
" hold on"
" naughty nineties"
" boss"
" potato crisps"
.....almost every page has one or two of those ... why ... can't Welsh deal with them?
Plus, you do get a lot of literary Welsh in all its resplendent ugliness and with all its daft verb endings, and also a lot of obscure words ..... many that I've never seen anywhere else, and some that are not in any of my dictionaries.
Here's a just a few examples from this rich fund of brainboxbogglingstuff to get you thinking ... I've worked some of them out, had an educated guess at others but as for some of them ... who knows ? Some you will probably have to look up, and some you will just have to wonder about ... have your heaviest dictionaries at the ready....
'D oes a wnelo fo ddim ag olew, felly ? ( the 'd is good too)
..and another "floating" 'd in "A 'd ydw i ddim yn meddwl .... "
" O'r gorau" ebe Mt. Harris ( there's lots of "ebe" in the book .... ebe pam?)
" Ac o b'le daeth y gweryl fach breifat" ( the b'le is rather odd too.)
Beth pe baech chi'n mynd ati .... "
Eisteddai yn llewis ei grys.
... gan osod ei law'n dynn dros y safnle, ac ebe ef .... ( mouthpiece I suppose)
... ac edrych i fyny ay y nendo. ( Nendo seems to say the same thing twice ?)
Brensiach
Daethpwyd â'r bwrdd ....
darostyngiad .. I know what it means ... but why ?
" Diâni ! " meddai Mr. Harris
fedrem
deuthum
yr oedd yn ei boced siec am fil o bunnau ... ( bun = a maiden, bunâu = millions)
lled-chwerthin
warwsman ( as in " mae llofnod y warwsman yn ymddangos yn olreit i mi" )
Felly, yng nghymfforddusrwydd yr ystafell fawr ...
Now that's just a dinky sample ..... and quite enough for now ... here's an actual review of it I found in some dusty journal ...
Cysgod yw Arian, gan Selyf Roberts. Gwasg Gee, 1959. 10/6.
Stori am fyd busnes yw Cysgod yw Arian. Busnes mawr
sydd yma sy'n holl-lywodraethol, a'i grafangau ymhobman yn
ceisio dileu'r busnesoedd bach. Daw Cymro o fancer wedi
ymneilltuo i feddiant o arian mawr mewn gwlad dramor, drwy
ddyfod yn ddamweiniol yn berchen darn o dir, digon diwerth
ynddo'i hun, ond darganfyddir fod olew yno a daw'r cyn-fancer
yn filiynydd ar drawiad. Nid oes dim i ryfeddu ato fod Cymro'n
deall byd busnesoedd mawr-onid enwau Cymraeg sydd ar rai o
fusnesoedd mwyaf Lloegr, ac onid oes enghreifftiau o Gymry
oludog yn rhannu eu harian wrth y miloedd? Digwydd y Cymro
cyfoethog hwn fod yn wr onest. Yn wir, y mae'n flaenor yn ei
eglwys, a da am unwaith yw cael geirda i flaenor mewn nofel
Gymraeg.
Y mae'r cwmni busnes mawr y sonnir amdano yn arbennig
ddigydwybod, a'i fryd ar gael y maes iddo'i hun, ac y mae ei
gynllwynion i ddileu'r busnesoedd bach yn ddieflig. Penderfyna'r
Cymro fynd i frwydr â'r cwmni mawr hwn a defnyddio'i gyn-
hysgaeth arian i'r pwrpas. Dyma rediad y nofel, a gwylio'r frwydr
yr ydych chwi a minnau hyd ei diwedd-yn mynd o boethder i
boethder hyd ddydd y fuddugoliaeth derfynol, i ba ochr nid teg
yw dywedyd. A yw blaenor o fancer yn ddigonol i'r frwydr?
Y mae gwybodaeth yr awdur o fyd cymhleth busnes yn
anhygoel, ac y mae'n ei thrin yn fedrus. Gwyr am yr holl driciau,
a llawer ohonynt yn syfrdanol o ddieflig. Nid yw'n tymheru dim
arnynt, ond eu dangos yn eu holl ysgelerder. Y mae ei arddull
yn ysgafn a hoyw, a'i gymeriadau oll yn bendant a llwyr dan ei
lywodraeth.
Stori frys gwyllt ydyw, fel pe baech ar daith ac eisiau cyr-
raedd ei phen cyn gynted ag y galloch, i weld beth sydd wedi
digwydd. Ac yn y stori hon, un dyhead sydd gennym-gweld cyn
gynted ag y mae'n bosibl sut y try'r frwydr. Pan fyddom ar daith
frys gwyllt, diflas yw i'r gyrrwr oedi yma ac acw i alw ein sylw
at olygfa nad oes fawr o ddim ynddi, a hyd yn oed petai rhyw-
beth ynddi sy'n ein hatal rhag gyrru ymlaen, neu i adrodd stori
nad oes fawr o gysylltiad rhyngddi a'r daith. A dyma un o wen-
didau'r llyfr-gordroi o amgylch pethau dibwys a ninnau ar frys.
Gellir cwtogi cryn dipyn ar amryw o'r ymddiddanion heb i
stori golli dim drwy hynny, a hefyd ar ddisgrifiadau.
Dyma enghraifft o'r peth ynglyn â digwyddiad. Un o bethau
grymusaf y stori, fel disgrifiad, yw'r olygfa dân. Yn wir, y mae'n
un o'r pethau godidocaf o'r fath a ddarllenais erioed. Y mae'r
disgrifiad manwl o'r holl drychineb yn arswydus o lawn a byw,
ond i bwrpas y stori y mae'n rhy hir o lawer. Digon i'r darllen-
ydd sydd ar frys am wybod y canlyniadau yw deall fod tân mawr
wedi bod, yn cynnwys hyn-a-hyn o ddinistr, a'i Ie yn amgylch-
iadau'r stori. Y mae digwyddiad ynglyn â'r tân a ddengys yn
glir yr ormodiaith. Un o gymeriadau canolog y stori yw gŵr
ieuanc o'r enw Tudur Evans. Delir ef gan y tân. Aruthrol yw'r
ymdrech i ddyfod o hyd iddo, a pherygl dymchwel o'r holl adeilad
bob eiliad. Deuir o hyd iddo ynghanol y malurion, ond syfr
dandòd yw deall wedi'r holl helynt mai ei unig ddolur yw tipyn
o gur yn ei ben. Fel y dywedodd Watcyn Wyn, y mae'r trên yn
hwy na'r stesion.
Y mae'r tameidiau Saesneg helaeth hefyd sydd yn y stori yn
rhy amI 0 lawer, a chaniatáu fod angen rhai ohonynt o gwbl.
Os stori Gymraeg, stori Gymraeg. Wrth ddarllen llyfrau feI. hyn
y mae'r meddwl yn crwydro at werinwyr diwylliedig o Gymry
Cymraeg cefn gwlad sy'n ymhyfrydu mewn llyfrau Cymraeg, a'u
Saesneg yn ddigon prin. Ar silffoedd y bobl hyn y caiff llyfrau
Cymraeg fwyaf o groeso, a pheth sy'n ddiflasach ganddynt na
dyfod yn gyson ar draws darnau helaeth o Saesneg mewn llyfr a
brynasant fel llyfr Cymraeg? Y mae nifer helaeth hefyd o eiriau
unigol Saesneg nad oes mo'u hangen. Y mae Pwyliaid wedi setlo
yma ac acw yng Nghymru erbyn hyn. Petai Pwyliaid yn hanfodol
i'r stori, a ddyfynnid ef yn ei iaith briod? Ac y mae anghysondeb
yn y peth hefyd. Nid yn unig ceir Cymry glân gloyw ar brydiau
yn parablu Saesneg, ond ceir hefyd Saeson uniaith yn siarad
Cymraeg.
Maes da, tir newydd, a chynhaeaf toreithiog, ond fod y gelyn
ddyn wedi bod ynddo'n hau efrau. Anghofier hwy, a cheir blas
ar y stori.
Searching for a photo of him, I found this instead ... what a surprise ....look closely !