. here's a "spirited" rendering of Ysbryd y nos ... this is going to count as !"The Music" !
Pan ddaw lleisiau'r nos i 'mhoeni,
A siffrwd gwag y gwynt i'm hoeri,
Ti sy'n lliwio'r blode
A mantell gwlith y bore:
Tyrd, Ysbryd y Nos.
Ysbryd y Nos, tyrd yma'n awr,
Gwasgara'r ofnau cyn daw'r wawr;
Diffodd y t'wyllwch, tyrd a'r dydd:
Gad im ddod o'r nos yn rhydd.
Pleth dy wallt mewn rhuban euraidd
Yn gynnes yn dy olau peraidd,
A bysedd brau y barrug
Yn deffro hun y cerrig:
Ysbryd y Nos, tyrd yma'n awr,
Gwasgara'r ofnau cyn daw'r wawr;
Diffodd y t'wyllwch, tyrd a'r dydd:
Gad im ddod o'r nos yn rhydd.
Ysbryd y Nos, rho d'olau mwyn,
Ysbryd y Nos, rho im dy swyn,
Ysbryd y Nos, fel angel y dydd,
Ysbryd y Nos, enaid y pridd.
Ac yno yn y dyffryn tawel
Mi glywaf gan yn swn yr awel
A neges hud y geirie
Yn hedfan dros y brynie:
Tyrd, ysbryd y Nos.
Ysbryd y Nos, tyrd yma'n awr,
Gwasgara'r ofnau cyn daw'r wawr;
Diffodd y t'wyllwch, tyrd a'r dydd:
Gad im ddod o'r nos yn rhydd.