http://therockyroadtowelsh.weebly.com/blog/eseciel-y-pigion
So ... here's the next overwhelming, nay, frightening episode of " Eseciel ac y Peth " .. I suggest you keep any children in the wardrobe while you read this ....
Yr oedd eu hadenydd wedi eu lledu uwchben, gyda dwy i bob creadur yn cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, a dwy yn cuddio ei gorff.
Yr oedd pob un yn cerdded yn syth yn ei flaen i ble bynnag yr oedd yrysbryd yn mynd ; nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth gerdded.
Ac ymhlith y creaduriaid yr oedd rhywbeth a edrychai fel marwor tân yn llosgi, neu fel ffaglau yn symud ymysg y creaduriaid ; yr oedd y tân yn disglair , a mellt yn dod allan o'i canol.
Yr oedd y creaduriaid yn symud yn ôl ac ymlaen, yn debyg i fflachiad mellten.
Fel yr oeddwn yn edrych ar y creaduriaid, gwelais olwynion ar y llawr yn ymyl y creaduriaid, un ar gyfer pob wyneb. Yr oedd ymddangosiad a gwneuthuriad yr olwynion fel hyn : yr oeddent yn debyg i belydrau o eurfaen, gyda'r un dull i bob un o'r pedwar; o ran gwneuthuriad yr oeddent yn edrych fel pe bai olwyn oddi mewn i olwyn, a phan oeddent yn symud ymlaen i un o'r pedwar cyferiad, nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd.
Plus .. don't forget about that Eisteddfod programme tonight on't bocs ... look back a couple of posts ar gyfer y manylion .
But, after all that incredible stuff about Eseciel and his mysterious " sightings", here's Ffa Coffi Pawb with "Hydref Yn Sacramento" from 1999 ... mainly because I've been reading about them ...