Er doedd ddim byd yn symud - ddim enaid ar y sgwâr
Mi oedd ryw ysbryd yno - mae'r dref 'ma'n ar wahân
dwi'n siwr fod ar adegau ..... mae'r bryniau'n cau i mewn
i lyncu fy nheimladau ... cyn poeri nhw allan
mi ddringau o'ma rhywsut .. mi wn am lwybr cudd
a elwir A470 sy'n dilyn i Gaerdydd....
mae pendraw'r enfys yn symud ... tra dwi'n symud
methu cymryd fo i mewn
dyma yw yr amser ... sut mae dy amserlen ?
oes gen ti bychau -heb eu lenwi i mewn ?
A pryd ddaw'r llanw fyny - cawn lwybr gwlyb i'r môr
lle ddarganfyddwn ynys .. lle dwi ddim eisiau bod
i lawr i'r orsaf rheilffordd ... arhoswn am oes mul
cyn sylwi'r daflen amser .... dim trenau ar ddydd Sul...
mae pendraw'r enfys yn symud ... tra dwi'n symud
methu cymryd fo i mewn
dyma yw yr amser ... sut mae dy amserlen ?
oes gen ti bylchau - heb eu lenwi i mewn ?
i mewn i mewn ... i mewn i mewn
i mewn i mewn ... i mewn i mewn
i mewn i mewn ... i mewn i mewn
i mewn i mewn ... i mewn i mewn