While we're at it, here's another Huw M song, one of his very best, and set on the lovely pier at Bangor .... Seddi Gwag ...
Atgoffa fi os fyddai byth yn bod yn gas
Am seddi gwag y trên i Baris Montparnasse,
Atgoffa fi os fyddai byth yn bod yn flin,
i drio camu nôl i chwerthin ar fy hun.
Yn y byd 'ma - tynna fi yn ôl,
Yn y bywyd hwn - na'i dy dynnu di yn ôl.
Na'i ddeud 'tha ti os dwyt ti ddim yn bod yn deg,
A deud 'tha fi feddwl cyn agor fy ngheg,
Na'i ddeud 'tha ti i ymdawelu gyda'r nos,
A deud wrth y bwganod i adael ti fod.
Yn y byd 'ma - tynna fi yn ôl,
Yn y bywyd hwn - na'i dy dynnu di yn ôl.
Atgoffa fi os wyt ti'n trio estyn llaw,
Na fyddai byth yn lân yn golchi yny baw,
Atgoffa fi os fyddai byth yn bod rhy saff,
Fod angen mentro'r gaeaf er mwyn gwled yr haf.
Yn y byd 'ma - tynna fi ymlaen,
Yn y bywyd hwn - na'i dy dynnu di ymlaen.
Geiriau hyfryd !