mil harrdach wyt na'r ceffyl gwyn
a'r ceffyl brith ar ael y bryn
a'r ceffyl cry sy'n llamu'r llyn
mil harddach wyt.
a mil gwell gen i nag aur y byd
yw dy weld di'n gorwedd ar dy hyd
mi gân' nhw gadw'r siaced ledar goch
a hynna i gyd
achos mil harddach wyt
a cladda fi yn ffinistêr
y dyn sych o dan y sêr
ond paid â cholli cwsg
paid â gwneud dy wallt i gyd yn flêr
achos mil harddwch wyt.
... and, if you want them, here's the words to the lullaby version ....
Mil Harddach wyt na'r rhosyn gwyn,
Na'r rhosyn coch ar ael y bryn
Na'r alarch balch yn nofio'r llyn,
Fy maban bach.
Mwy swynol yw dy chwerthin mwyn
Na chan y fronfraith yn y llwyn,
Nan murmur mor o ben y twyn,
Fy maban bach.
Mwy annwyl wyt na'r oenig gwyn
Na'r blodau tlws ar ochrau'r bryn,
Na dawnsio heulwen ar y llyn,
Fy maban bach.
Mil gwell gen i nag aur y byd,
Yw gweld dy wenau yn dy grud,
Fy ffortiwn wyt, a gwyn fy myd,
Fy maban bach.