Ac wrth fyned heibio, efe a ganfu ddyn dall o'i enedigaeth.
A'i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall?
Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na'i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef.
Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd: y mae'r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio.
Tra ydwyf yn y byd, goleuni'r byd ydwyf.
Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o'r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall;
Ac a ddywedodd wrtho, Dos, ac ymolch yn llyn Siloam, (yr hwn a gyfieithir, Anfonedig).
Am hynny efe a aeth ymaith, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled.
Y cymdogion gan hynny, a'r rhai a'i gwelsent ef o'r blaen, mai dall oedd efe, a ddywedasant, Onid hwn yw'r un oedd yn eistedd ac yn cardota?
Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo.
Yntau a ddywedodd, Myfi yw efe.
Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di?
Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Dyn a elwir Iesu, a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i; ac a ddywedodd wrthyf, Dos i lyn Siloam, ac ymolch.
Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg.
Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe?
Yntau a ddywedodd,
Ni wn i.