Here's the first two I made .....
P R I A B E A E
R E A D D E G LL
Y L U H D Y L A
G A M S R U W D
So .. how many Welsh words of 3 or more letters can you get out of those.... remembering that you're only allowed to move 1 place up, down or diagonally at a time, you can't visit the
same square twice , no proper names, but, because we are mere beginners ,we can have mutated words....after all, we've got to get used to them haven't we ? If you want a more complete explanation, whizz back a couple of posts to the original Boggle thing I wrote a couple of days ago.
You should be able to get more than 12 words from each of those .... and that's not even counting the two 8-letter words embedded in each of the grids. Pob lwc i pawb !
Dyma AL Lewis gan "Llosgi" ... yn byw ...
Mae presenoldeb Al Lewis Band yng Nghymru ac ar donfeddi radio Cymreig yn amlwg iawn ers eu llwyddiant pan gipwyd yr ail wobr yng nghystadleuaeth Can i Gymru 2007 gyda'r trac angerddol, Llosgi.Rhwng 2007 a 2008 rhyddhawyd dwy EP yn y Gymraeg sef ‘Byw mewn Breuddwyd’ a Dilyn pob Cam’. Fe aethynt hefyd ymlaen i chwarae gwyliau fel Swn, Sesiwn Fawr, Maes B a Wakestock ynghyd â pherfformio ar raglenni fel Bandit, Nodyn a gwneud sesiynau i C2 Radio Cymru.
Daeth eu albwm gyntaf 'Sawl Ffordd Allan’ allan yn 2009 gan gynnwys caneuon adnabyddus fel Lle Hoffwn Fod, Trywydd Iawn a hefyd y gân Gwenwyn a pherfformiwyd yn wych gan y chwedlonol Meic Stevens. Wedi iddo rhyddhau ei albwm Saesneg cyntaf, 'In the Wake’ (ALM, 2010), daeth Al i fod yn artist y mis i'r cwmni Caffe Nero, gan sicrhau dechreuad prysur i 2011 wrth deithio ledled Prydain yn canu mewn caffis. Mae'r ail albwm Cymraeg 'Ar Gof a Chadw’ yn dilyn swn a naws cynnes 'In the Wake’. Mae'r holl ganeuon yn trafod y syniad o fywyd yn gwibio heibio gan ein gadael yn hiraethu neu'n myfyrio am gyfnodau penodol. Ond yn fwy na dim, y teimlad hwnnw o berthyn. Naturiol felly oedd i Al gyd-ysgrifennu'r caneuon unwaith eto gydag Arwel Lloyd, a gadael i lais cefndir Sarah Howells lapio'r cyfan â hud a lledrith, fel y gwnaeth mor gywrain yn 'In the Wake’. Mae gwaith cynnil Sion Llwyd (bas a phiano), Ryan Aston (dryms), Jonathan Thomas (pedal steel) a chynhyrchu dihafal Dave Wrench yn amlwg iawn yma hefyd. Ac i'r rhai hynny a fwynhaodd ymddangosiad Meic Stevens ar 'Sawl Ffordd Allan’, Elin Fflur yw'r gwestai y tro hwn, gyda'r gân ingol 'Hafan’. Ym mis Ebrill 2011 yng ngwobrau RAP Radio Cymru fe enillodd Al y wobr am “Artist Gwrywaidd y Flwyddyn”.