Pa Beth yw Dyn? was published in Waldo’s only book of poetry, Dail Pren (The Leaves of the Tree), which came out in 1956. "The Curious Astronomer" also appended two translations of the poem ..one by Y Archesgob Caer-gaint , , and one by Tony Conran. I suggest you make a translation of your own, and compare/contrast it with theirs.
Pa Beth yw Dyn ?
Beth yw byw? Cael neuadd fawr
Rhwng cyfyng furiau
Beth yw adnabod? Cael un gwraidd
Dan y canghennau.
Beth yw credu? Gwarchod tref
Nes dyfod derbyn.
Beth yw maddau? Cael ffordd trwy’r drain
At ochr hen elyn.
Beth yw canu? Cael o’r creu
Ei hen athrylith.
Beth yw gweithio ond gwneud cân
O’r coed a’r gwenith?
Beth yw trefnu teyrnas? Crefft
Sydd eto’n cropian
A’i harfogi? Rhoi’r cyllyll
Yn llaw’r baban.
Beth yw bod yn genedl? Dawn
Yn nwfn y galon.
Beth yw gwladgarwch? Cadw ty
Mewn cwmwl tystion.
Beth yw’r byd i’r nerthol mawr?
Cylch yn treiglo.
Beth yw’r byd i blant y llawr?
Crud yn siglo.
One thing I noticed straight away about that... unusually for Welsh poetry, the language is relatively straightforward .... a lot of Welsh poetry is bunged up with obscure words and literary constructions. Just saying !!
o-caroline.html