Dathlu wyth canmlwydd bwrg Bi-Amserau bora rwan. Rhagoela lloeren poethdydd tymhorol fel arfer, hynny yw y 30au uwch, ond - hip hwre - erbyn canolddydd cawod hirbrin o law da. Enfys dros wyntffermydd glanna'r dwyrain a throdyrbeiniaid llanw Traeth Lafan. Pawb yn cegrhythu. Cofbafiliwn ysblennydd Ynys y Grin, marnad maen anffodusion Archlifogydd Bydgynhesol 2046, yn lliwio'n rhos a phorffor.
Llygada pawb pawb ar yr uwchorsaf wrth i wibdrawsgysylltydd prifdref Caerdydd ddadlanio Blaenferch Cymru, Gwenllian Fujimori. Seiberband Cymru yn taro Hen Wlad fy Mamau (cyfansoddwyd 1995) wrth i GF gerdded draw at sgrin syllu i dderbyn llongyfarthion Hans Perikles, Archgomisiynydd Gorllewin lwro, pennaeth presennol y Rhanbarthau Cyfunol. Ysgolhogs lleol, yn rhydd o'r addysgrwydwaith am y dydd yn bloeddio tshîrs a chwifio chwyrligwgans rêl bois, ocê !
Nodyn sur gan UGACHI ( Undeb Gweithredwyr a Cheidwaid Cefn Gwlad Iwro), yn protestio
cadw Pedwar Bi-Amserau dan glo o hyd am fod wedi magu anifeiliaid byw yn sîcret yn amaethiliwn Llaniestyn. Tawelwyd y dorf gan yr Hedduned Otomatig a trawsgludwyd pawb i garchar bondibethma newydd Bryn Barwn. Cymdeithas yr iaith Saesneg yn cwyno fod logo'r HO mewn Cymraeg a Tsinêg yn unig.
Offeiriades leol, y dderwyddes Nioprin Jones ( enw yng ngorsedd Cawsgaled) dan nawdd Kymrukola , yn cyflwyno torch o uchelwydd a deri i'r Flaenferch Fujimori. Datganwyd awdl ddwys ar hanes bwrg Bi-Amserau dros y 100 mlynedd diwethaf. Cyfeirio at ddathlu'r mileniwm 2000 , pan losgodd tân gwyllt y pier, carcharu Carlo Windsor yn Castell Bi-Amserau 2010, terfysg Twnel Menai 2026, buddug-goliaeth tîm hci roler Dynamo Llangoed yn yr lwrogwpan yn erbyn Afreal Madrid 2067. Hen stejars yn sychu'r dagara o'u llygada , yn cofio'r dyddia pan nad oedd to ar Siopfa'r Castell, a llowciwrs petrol i'w gweld o hyd yn Rating Row. Gorffen efo ple ar i Parc Thema Castell Bi-Amserau gael hysbys gwell ar y wibwe ar gyfer dathliada 21ain ganrif.
Medd a jiws yn llifo'n rhydd a pawb yn codi'r llwnc-destun -'ddoe, heddiw, a byth bythoedd !'
Pawb yn ei throi hi erbyn 6 i edrych ar rifyn arbennig Pobl y Bwrg. Pawb wedi joio.
.......................................................................
Any idea what all that up there is about ?
You should be able to get a fair idea .. there's more and more clues as you go along
" Bi-amserau" is a made-up but rather apposite place-name gyda llaw . ]
And now, the music. I've often boasted about the steady rise in the ranking of this music spot, but it's all taken a bit of a tumble .... the latest " Best Welsh Music Spot this side of the Pennines" ranking dropped last month from 78347th to 78351th. Duw, Duw !!
Ond dwi'n strafaglu ymlaen ... here's a jolly song I haven't put on here for ages ... Bocs Angelica .... GZM ... well, a bit of it. Why it's called Pandemonium I don't know ..well, the "panda" part is obvious ... it's Spanish for a "gang" gyda llaw ...
Bocs Angelica, mae fe'n agor dydd Sul
Bocs Angelica, nid yn meddwl fel chi
Gwerthu e lawr y marced, a mae dim ond dydd Sul
Mae wedi dod 'ma i marw, a mae'n teimlo fel
Ah...
Bocs Angelica, mae fe'n agor dydd Sul
Bocs Angelica, nid yn meddwl fel stryd
Roedd ei meddwl yn______________
Cyn i ni gorwedd ar y traeth h
Ah...
Bocs Angelica, mae fe'n agor dydd Sul
Bocs Angelica, nid yn meddwl fel chi
Gwerthu e lawr y marced, a mae dim ond dydd Sul
Mae wedi dod 'ma i marw, a mae'n teimlo fel fi
-------------------------------
Dwi'n methu dychmygu beth yw y "bocs" !
....so what was all that, and where did it come from ?
..... I'll bury the answer in here. way back at the end of a post from the past ... here's the link to it ....
the-best-cover-version-youll-ever-see.html